Syth i'r cynnwys

DATHLU CANMLWYDDIANT 2009


Cychwynnodd gweithgarwch blwyddyn canmlwyddiant Cymdeithas Hanes Ceredigion ar 21 Mawrth gyda darlith yn Gymraeg yn dwyn y teitl 'O'r Morfa Bychan i'r Morfa Mawr - Llanw a thrai y cywydd yng Ngheredigion' gan Dr Dylan Foster Evans. Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Belle Vue, Aberystwyth ar 18 Ebrill, traddodwyd Darlith y Canmlwyddiant gan ein Cadeirydd, yr Athro Geraint H. Jenkins, a'n tywysodd drwy hanes 'Our Founding Fathers and Mothers: The Cardiganshire Antiquarians'. Ymhlith y gwahoddedigion yr oedd cynrychiolwyr o drefi'r sir a'r Cyngor Sir, ac yr oedd yn galonogol gweld cynulleidfa gref wedi ymgynnull i wrando ar hanes y Gymdeithas a'r bobl a fu'n gyfrifol am ei sefydlu a'i pharhad. Dilynwyd y ddarlith gan de arbennig, a noddwyd gan Gadeirydd y Cyngor Sir.

Ar 16 Mai teithiodd grŵp niferus o aelodau a chyfeillion i Blas Abermeurig dan arweiniad deallus Richard Suggett. Bu'r perchenogion presennol, David a Pam Clarke, yn ddigon hynaws i gynnig gwybodaeth ychwanegol am hanes y tŷ, ynghyd â'r perchenogion blaenorol a'r unigolion hynny oedd i weld yn y lluniau ar furiau'r plas.Ymlaen i Wastad Gwrda nesaf, lle cafwyd croeso tywysogaidd gan y perchenogion, Andrew a Ffion Davies. Eglurodd Richard Suggett ychydig o hanes yr adeilad ac ychwanegodd Ffion Davies fanylion am gysylltiad ei theulu â'r tŷ, ac am y gwaith o'i adnewyddu. Paratowyd arddangosfa fach, ar gyfer ymweliad y Gymdeithas, o luniau ac erthyglau'n ymwneud â'r tŷ, a oedd yn cynnwys lluniau diddorol yn olrhain y broses o Abermeurig i fwynhau te hyfryd a baratowyd gan y perchenogion.

Ar 20 Mehefin dathlwyd yr achlysur a roddodd gychwyn i'r Hynafiaethwyr drwy gynnal Taith y Canmlwyddiant i Abaty Ystrad-fflur, bron can mlynedd union i'r diwrnod y sefydlwyd y Gymdeithas yno ar 23 Mehefin 1909. Arweiniwyd y daith gan arbenigwyr a fu'n trafod cysylltiadau diwylliannol, crefyddol a phensaerniol y safle, a hanes ei chadwraeth. Bu'r Parchedig Dr. David H. Williams yn olrhain hanes y Sistersiaid, gan esbonio paham y dewiswyd y safle yn y lie cyntaf, a soniodd yr Athro Dafydd Johnston am agweddau llenyddol ar hanes yr Abaty a chysylltiadau'r beirdd â'r lie.

Yn dilyn cinio yn y Llew Du ym Mhontrhyd-fendigaid, dychwelwyd i Ystrad-fflur ar gyfer taith o amgylch yr olion. Cafwyd gan yr Athro David Austin esboniad ar y gwaith archaeolegol sy'n digwydd ar hyn o bryd o fewn ffiniau'r Abaty ei hun a thu hwnt, ynghyd ag eglurhad ar y gwaith cadwraethol gan Kate Roberts. Cyn ymadael, tynnwyd llun swyddogol y canmlwyddiant i gofio'r achlysur (gweler y llun ar y clawr).


Dylunio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.